Siop Bwyd Iechyd yn Llanrwst, Nant Conwy, Gogledd Cymru
Croeso i Siop Iechyd Llanrwst, un o Siopau Bwyd Iach annibynnol gorau gogledd Cymru. Mae gennym stôr o gynnyrch a bwydydd iach ymhlith y gorau sydd ar gael. Pan ddewch chi acw fe gewch chi chwilio drwy amrywiaeth enfawr o gynnyrch o'r ansawdd gorau o dros y byd i gyd:
- Fitaminau, mwynau ac atodion bwyd eraill
- Bwydydd llysieuol, fegan ac organig
- Bwydydd di-glwten a di-laeth
- Nwyddau ymolchi a golchi naturiol ac ecogyfeillgar
- Meddyginiaethau homeopathig
- Nwyddau gan : Solgar, Natures Aid, Vega, Vogel, Gillian McKeith, Nelson, Weleda, Aubrey Organics, Ecover, Ecozone.
Bob mis mi fyddwn yn cynnig rhai nwyddau penodol am bris gostyngol er mwyn i chi arbed mwy fyth o arian tra'n mwynhau ffordd o fyw iach a chadarnhaol. Yn Siop Iechyd Llanrwst rydym yn credu nad oes angen i fyw'n iach gostio'r ddaear. Pam na ddewch chi heibio i gael gwerth eich pres o fwydydd iach a'r atodion bwyd gorau, a hynny am bris fydd wrth eich bodd?
Bwyd Llysieuol a Fegan
Dewis helaeth o fwyd llysieuol a vegan, hefo eitemau oer ac wedi eu rhewi.
Bwyd Deietau Arbennig
Rydym yn gwerthu bwyd ar gyfer deietau arbennig:
Di-glwten: cacennau, bara, muesli, pasta ayyb
Di-laeth: pwdin ia, siocled Booja Booja, llefrith soya a reis ayyb
Diabetig/di-siwgr: marmalêd, bisgedi, siocled etc
Bwyd Organig
Dewis helaeth o fwyd organig hefo amrywiaeth o sudd ffrwyth, ffrwythau sych a chnau organig, te, coffi a reis masnach-deg ayyb.
Nwyddau Ymolchi a Golchi Ecogyfeillgar
Golchi: nwyddau ecogyfeillgar fel Ecover, peli golchi a peli sychu Ecozone.
Ymolchi: Brwsys dannedd a phast dannedd Solaray. Diaroglyddion a siampŵ gan Aubreys Natural Bodycare ac eraill. Nwyddau Natracare, Faith in Nature, Weleda, Thursday Plantation Tea Tree ayyb.
Fitaminau, Atodion Bwyd Eraill, a Meddyginiaethau
Fitaminau, mwynau ac atodion bwyd eraill: e.e. Solgar, Natures Aid, FSC, Vega, Gillian McKeith ayyb.
Meddyginiaethau Llysieuol a Homeopathig: e.e. New Era, Nelsons, Bioforce a Bach Remedies
Bwyd Iach
Bwydydd iechyd eraill ar gyfer modd o fyw iach e.e. ffrwythau sych a chnau, te llysieuol, sawr-lysiau, sbeisys a llawer mwy!
Bargeinion
Cynnig 'Natures Aid'
- 'Cod Liver Oil' 180 Caps 1000mg - £5.99 llai na hanner pris
- 'Cod liver Oil' 90 Caps 1000mg - £3.49 llai na hanner pris
- 'Cod Liver Oil' 90 + 30 caps 33% am ddim 550mg - £3.05
- 'Evening Primrose Oil' 180 caps 1000mg - £9.99 llai na hanner pris
Profiad Alergedd Bwyd
Mae ein profiad nesaf ar 3 Mis Medi 2011.
Ffoniwch 01492 641699 i wneud apwyntiad.
Mae cost y profiad ydy £45.

Oriau Agor y Siop
Dydd Llun i Ddydd Mercher: 9 tan 5.
Dydd Iau: 9 tan 1.30
Dydd Gwener a Dydd Sadwrn: 9 tan 5
Mae prisiau yn cynnwys TAW. Mae Siop Iechyd yng nghanol dre Llanrwst ar fin Parc Cenedlaethol Eryri yng ngogledd Cymru. Os nad ydych chi'n siŵr beth yn union sydd ei angen arnoch chi, galwch heibio neu rhowch ganiad i ni. Byddwn ni'n falch bob amser i roi gair o gyngor neu eich helpu i ddewis y peth iawn. Mae'r cyngor am ddim ac mi fyddwn ni'n gwneud ein gorau bob amser i gynnig gwasanaeth effeithiol a chyfeillgar.

